Cymraeg | English
Dydd Sadwrn 31 Gorffenaf

cartref » helpu eich busness » dechrau eich busnes

Dechrau eich busnes

Dechrau eich busnesDros y blynyddoedd diwethaf mae TGAL wedi helpu cannodd of fusnesau newydd ac wedi cyfarfod angenion entrepreneuriaid yn ogystal a busnesau mawr neu bach. Rydym yn canolbwyntio ar wneud yn siwr bod gan ein cwsmeriaid y rhwydwaith cywir i alluogi eu busnes i tyfu a llwyddo. Mae busnesau cwsmeriaid TGAL yn amrywio mewn maint a math, o’r unig fasnachwr i gwmnioedd cyfyngedig mawr. Rydym wedi rhoi cymorth i ein cwsmeriaid i brynu busnesau, codi arian, darganfod cyllid, edrych ar sut gallem wella eu cadwyn cyflenwad, lleihau gwastraff, marchnata, marchnata ar lein a TGCh. Mae pob busnes yn unigryw, dyna pam mae TGAL yn gwneud yn siwr ein bod yn cyfarfod pob busnes, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddeall y busnes, beth sydd angen, ac wedyn gweithio efo’r cleient i wneud yn siwr bod pecyn cefnogaeth yn cael ei gynhyrchu.

Mae amryw o becynnau cymorth ar gael ar gyfer busnesau newydd trwy Gymru. Os rydych yn disgwyl i gael trosiant o oleiaf £80,000 yn eich blwyddyn gyntaf gall TGAL gynnig cymorth gyda ysgrifennu cynllun busnes am gôst isel neu weithiau yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i gael sgwrs am sut gallwch helpu eich busnes chi.