cartref » am TGAL » Newyddion Diweddaraf TGAL
Newyddion Diweddaraf TGAL
Pam na wneuwch chi tanysgrifio i’r newyddion Diweddaraf gan TGAL. Wrth wneud hyn gallwch gadw’n gyfarwydd gyda’r newidiadau yng ngwasanaethau busnes yng Nghymru ac mewn datblygiadau yng ngrwp TGAL. tanysgrifiwch | 
Gwahoddiad - Digwyddiad Ymwybyddiaeth ISO : ISO9001 / 14001
Hoffem eich gwahodd i'n digwyddiad ymwybyddiaeth ISO 9001/14001 fydd yn cael ei chynnal yn y lleoliadau canlynol yn ystod mis Chwefror: -
15fed o Chwefror, Coleg Powys, Ffordd Llanidloes , Y Drenewydd, Powys SY16 4HU
16fed o Chwefror, The Barn at Brynich, Aberhonddu, Powys LD3 7SH
Mae’r digwyddiadau yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yn anelu i ddatblygu a helpu cwmnïau i ennill cytundebau o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae nifer helaeth o dendrau a holiaduron cyn-gymhwyso o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn gofyn am y safon ansawdd ISO 9001 neu'r safon amgylcheddol ISO 14001 fel rhan o feini prawf y broses cymhwyso cyn-dendro. Bwriad y gweithdai hyn yw rhoddi mewnwelediad i gwmnïau o beth y mae yn ei gymryd i dderbyn yr achrediadau uchod, beth yw’r budd i fusnesau, pa gostau sydd ynghlwm hefo’r broses, pa mor hir mae’n cymryd i gael yr achrediad, pa oblygiadau sydd i fusnesau ac os ydi yn werth mynd i lawr y llwybr hwn ar gyfer eich cwmni chi.
Bydd y gweithdai yn cael ei rhannu i ddau sesiwn fel y gweler isod:
9.15yb - 12.45yh - ISO9001, Cyflwyniad i Systemau Rheolaeth Ansawdd
1.30yh - 5.00yh - ISO14001, Cyflwyniad i Systemau Rheolaeth Amgylcheddol
Mae croeso i chi fynychu un neu’r ddau weithdy uchod.
Os hoffech ymuno â ni yn y seminar yma, yna gofynnir i chi gofrestru trwy ffonio Guto Carrod ar 01970 636 283 neu e-bostio guto.carrod@menterabusnes.co.uk.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
GWAHODDIAD - Diwrnodau Agored Adfywio
Bydd Cyngor Sir Powys, mewn partneriaeth â un o brosiectau Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yn cynnal dau Ddiwrnod Agored Adfywio ar gyfer busnesau newydd a busnesau sydd eisioes wedi’u sefydlu yn y Sir.
Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn un o’r digwyddiadau ‘galw mewn’ a gynhelir ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher 25 Ionawr - Gwesty’r Castell, Aberhonddu – LD3 9DB
Dydd Mawrth 31 Ionawr - Elephant & Castle, Y Drenewydd – SY16 2BQ
Bydd y Digwyddiadau Agored yn rhedeg rhwng 3.00pm a 7.00pm ac mae croeso cynnes ichi alw mewn ar unrhyw adeg.
Nod y digwyddiadau bydd darganfod mwy am y Cynllun Grant Datblygu Busnes newydd a lansiwyd gan Gyngor Sir Powys i gynorthwyo busnesau newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes yn y sir. Bwriad y cynllun yw annog busnesau sy’n bodoli i ehangu. Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i fusnesau sydd eisioes wedi’i sefydlu a hyd at £2,500 ar gyfer busnesau newydd.
Fel rhan o’r digwyddiadau, bydd arddangosfa gyda chynrychiolwyr o wahanol sefydliadau ar gael i roi gwybodaeth am gymorth a chyngor ariannol i fusnesau newydd a busnesau sydd wedi sefydlu.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle ichi ddarganfod mwy am un o brosiectau Llywodraeth Cymru, Y Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr sy’n ymroddedig i helpu busnesau greu perthnasau rhyngfasnachol effeithiol ac i ddarparu cymorth i ennill cytundebau yn y sector breifat a chyhoeddus.
Bydd hefyd cyfle i rwydweithio yn y digwyddiadau gyda busnesau eraill.
Mae’r digwyddiadau yn anelu i gynorthwyo busnesau drwy’r hinsawdd economaidd heriol, felly dewch draw i ddarganfod sut i roi hwb i’ch busnes ac i weld pa gymorth a chyngor sydd ar gael er mwyn symud ymlaen yn hyderus yn 2012.
I lawrlwytho'r ffurflen archebu ewch i http://bit.ly/z94fNZ
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
LLYWODRAETH CYMRU
GWAHODDIAD: GWEITHDY CYNLLUN ARDYSTIO MICROGYNHYRCHUM
Ydych chi wedi ystyried gosod technoleg adnewyddol??
Yn y dyfodol agos bydd plymars, trydannwyr a chwmniau adeiladwaith cyffredinol yn trosglwyddo sgiliau traddodiadol i osod technoleg adnewyddol. I fod yn rhan o’r economi werdd, byddwch angen ailsgilio er mwyn cyflawni yr Ardystiad Microgynhyrchu (MCS).
Rwyf yn ysgrifennu atoch i’ch gwahodd i un o’r gweithdai MCS canlynol a gynhelir ym Mhowys yn ystod Rhagfyr. Trefnir y digwyddiad gan y Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr, Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yng Nghymru. Mae’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yn anelu i ddatblygu a helpu cwmniau i ennill cytundebau o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae’r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu yn anghenraid hanfodol i osod technoleg adnewyddol, ac ni allwch uchafu cyfleon y Fargen Werdd, Prisiau Bwydo i Mewn na’r Cymhelliad Gwres Adnewyddol hebddo. Bydd eich cwsmeriaid yn mynnu ar y Tystysgrif Ardystiad Microgynhyrchu a bydd yn allweddol i dendro a chaffael i’r sector gyhoeddus o fewn y sector yma.
Dylunwyd y gweithdy i roi mewnwelediad i’r cyfleon sydd ar gael o fewn y diwydiant ynni adnewyddol, pa dechnoleg â’i gynhwysir o dan MCS, pa ysgogiad ariannol sydd ar gael i’ch cwsmeriaid, sut i ennill y dystysgrif a beth yw’r buddiannau i fusnesau bychain.
Fe’ch gwahoddir i fynychu un o’r gweithdai canlynol yng
Ngwesty y Wellington, Bulwark, Aberhonddu, Powys LD3 7AD ar ddydd Mercher yr 14eg o Ragfyr o 8.30am hyd at 11.00am neu
Gwesty’r Elephant & Castle, Stryd Broad, Y Drenewydd, Powys SY16 2BQ ar ddydd Mercher yr 14eg o Ragfyr o 4.00pm hyd at 6.30pm
Sut i ddod yn gwmni cofrestredig MCS
Mae’r gweithdy yn cynnwys:
Cyflwyniad i Dechnoleg Egni Adnewyddol
Deall Prisiau Bwydo i Mewn & Cymhelliad Gwres Adnewyddol
Deall y broses asesu ar gyfer Cynllun Ardystio Microgynhyrchu
Mynediad a gofynnion y Cynllun
Costau a Buddiannau
Rhwydwaith Microgynhyrchu Cymru
Cyllid a chefnogaeth ar gael i Osodwyr Cymraeg
Y meysydd a gynhwysir o dan y dechnoleg: pympiau gwres o’r aer/ddaear, paneli egni solar, ffotofoltaidd solar, tyrbin gwyn, system biomas, pwer dwr ar raddfa fychan a meicro CHP.
Os ydych yn dymuno ymuno hefo ni, plis cysylltwch â Eirian Davies yn ein swyddfa yn Aberystwyth ar 01970 636280 neu eirian.davies@menterabusnes.co.uk i archebu eich lle. Edrychwn ymlaen i glywed gennych.
Yn gywir,
Carys Griffiths
Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr - Adeiladwaith
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Sut i Dendro?
Lleoliad: Pafiliwn Rhyngwladol, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd
Dyddiad : 6ed Rhagfyr 2011
Mae Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth a Chyngor Sir Powys yn eich gwahodd chi i ddigwyddiad "Sut i Dendro", sydd â'r nod o ddarparu cyflenwyr a chontractwyr gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar sut i dendro am gytundebau a gweithio i Gyngor Sir Powys. Bydd y digwyddiad yn ffocysu ar faterion megis tendro dros y wê, Manteision Cymunedol, â’r gwasanaethau cymorth busnes sydd ar gael i’ch cynorthwyo chi trwy’r broses hon.
Bydd hefyd y cyfle i chi gyfarfod a rhwydweithio gyda swyddogion Cyngor Sir Powys. Gweler isod agenda ar gyfer y digwyddiad.
Trefn y Cyfarfod
2pm - Cyrraedd ar gyfer cofrestru a lluniaeth
2.30pm - Croeso a Chyflwyniad gan Wasanaeth Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cymru
2.40pm - Cyflwyniad gan Gyngor Sir Powys
2.45pm - Bravosolution - tendro dros y we
3.30pm - Egwyl gysur
3.40pm - Manteision Cymunedol - Kirsty Ellis, i2i
4.20pm- Lluniaeth, Rhwydweithio a Chwestiynau
5.30pm - Gorffen
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle da iawn i chi gwrdd â Chyngor Sir Powys, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdrefnau tendro, a'r gwasanaeth cymorth sydd ar gael ar gyfer eich busnes.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Guto Carrod ar 01970 636 283 neu guto.carrod@menterabusnes.co.uk.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Gweithdy Sut i Dendro?
Gweithdy "Sut i Dendro?"
Hoffem eich gwahodd i’n gweithdy "Sut i Dendro?" a gynhelir yn y lleoliad canlynol:
Gwesty’r Royal Oak, Y Trallwng ar y 18fed o Hydref 2011
Mae’r gweithdy "Sut i Dendro?" yn anelu i ddarparu cyngor ymarferol a chanllawiau ar gyfer tendro’n llwyddiannus. Mae’r gweithdy yn cymryd golwg ar pam ddylai busnes dendro; yn esbonio’r camau sy’n rhan o’r broses pwrcasu; yn cynnwys arweiniad gam-wrth-gam trwy’r holiadur PQQ; ac ar gyfer ysgrifennu a chyflwyno’r tendr.
Dyma weithdy hanner diwrnod fydd yn cychwyn 9:15yb ac yn gorffen am 13:15yh gyda chinio..
Trefn y Diwrnod
09:15yb Cofrestru, Te a Choffi
09:00yb Modiwl 1: Pam Tendro?
10:15yb Modiwl 2: Camau’r broses dendro
11:00yb Te a Choffi
11:15yb Modiwl 3: Y Tendr
12:15yh Modiwl 4: Canfod tendrau a chymorth pellach
12:30yh Cinio a Rhwydweithio
Os hoffech ymuno â ni yn y gweithdy yma, yna gofynnir i chi gofrestru trwy ffonio Menter a Busnes ar 01970 636 565 neu e-bostio sales@ipsmarketing.co.uk. Mae nifer penodol o leoedd ar gael a byddwn yn eu pennu ar sail gyntaf i’r felin a hefyd yn cadw rhestr aros. I sicrhau eich lle a llwyddiant y digwyddiad, byddem yn ddiolchgar petaech yn ymateb gwahoddiad erbyn y 10fed o Hydref 2011.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cwrdd â’r Prynwr Gogledd Powys
Dydd Mawrth 20fed o Fedi 2011, Gwesty Maesnawr Hall, Caersws, Powys
Mae prosiect Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i fynychu digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yng Nhwesty Maesmawr Hall, Caersws ar y 20fed o Fedi.
Bydd y digwyddiad yma yn gweld prif sefydliadau’r sector cyhoeddus yn dod ynghyd. Bydd y rhain yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Coleg Powys, GIC, Heddlu Dyfed Powys Police, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cynghorau Sir gerllaw a mudiadau eraill.
Nod y digwyddiadau fydd i estyn cyfle i fusnesau lleol cwrdd â sefydliadau’r sector cyhoeddus, i geisio adnabod cyfleoedd ac i feithrin gwell dealltwriaeth o’r broses caffael. Mae’r mudiadau yma’n awyddus iawn i gwrdd â busnesau lleol a’r bwriad, o bosib, i sefydlu perthynas gyda chyflenwyr newydd.
Yn ogystal â chwrdd â chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, bydd cyfle ichi gwrdd â nifer o sefydliadau cymorth busnes a rhwydweithio gyda busnesau lleol eraill.
Bydd angen i chi benderfynu pa ddigwyddiad hoffech fynychu a pha sesiwn. Mae sesiwn y bore yn cychwyn am 9.30 a gorffen am 12.30 a’r prynhawn o 1.30 - 4yh. Byddwn yn rhoi apwyntiad i chi ar gyfer cwrdd â’r mudiadau am tua 10-15 munud yr un. Gan fod y nifer o apwyntiadau yn gyfun fydd angen i chi fwcio’ch lle a’r cyntaf i archebu bydd yn sicrhau lle. Fydd angen llanw’r ffurflen a’i ddychwelyd i guto.carrod@menterabusnes.co.uk erbyn Dydd Llun y 12fed o Fedi 2011 neu am ragor o fanylion cysylltwch â Dafydd Guto Carrod ar 01970 636 283.
Mae’n bosib i chi ddod a chardiau busnes, taflennu gwybodaeth ayyb os dymunwch.
Ffurflen Archebu Lle Cwrdd â’r Prynwr Gogledd Powys 2011
|
Enw |
|
|
Enw’r cwmni |
|
|
Swydd gyda’r cwmni |
|
|
Cyfeiriad y Cwmni |
|
|
Rhif ffôn |
|
|
Rhif ffôn symudol |
|
|
Cyfeiriad E-bost |
|
|
Nodwch y lleoliad a’r sesiwn hoffech fynychu |
Gwesty Maesmawr Hall, Caersws, Powys Dydd Mawrth 20fed o Fedi 2011 Bore Prynhawn |
Nodwch unrhyw anghenion eraill os gwelwch yn dda..
Dychwelwch y ffurflen hon at guto.carrod@menterabusnes.co.uk erbyn Dydd Llun 12fed o Fedi 2011
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------